top of page

NEGES GAN Y PENNAETH

Ein nod yw darparu addysg wedi'i theilwra i'n myfyrwyr i ddiwallu eu hanghenion unigol a'i dylunio i roi'r sgiliau iddynt wella eu cyfleoedd bywyd a gwireddu eu potensial.  Ein nod yw cefnogi cynnydd y dysgwyr; gan eu galluogi i ddatblygu hunan-barch, hyder, hunanwerth, ymgysylltu ag addysg ochr yn ochr â chymwysterau sy'n eu galluogi i gael mynediad at lwybrau'r dyfodol.  

Ein blaenoriaeth yw eu helpu yn ôl ar y trywydd iawn, naill ai drwy ddychwelyd i addysg arferol neu drwy gwblhau Blwyddyn 11 gyda ni, fel eu bod yn dod yn barod i wneud cyfraniad cadarnhaol yn y gymuned ac yn eu bywyd ar ôl Canolfan Addysg Conwy.

Mae Canolfan Addysg Conwy yn lle rydym yn gweithio’n galed i geisio gwneud i bobl ifanc deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu dysgu trwy ryngweithio cefnogol, profiad a llwyddiant.  Ein nod yw darparu amgylchedd diogel a hapus i bobl ifanc a staff.

Rydym wedi ymrwymo i wella cyfleoedd bywyd ein pobl ifanc trwy ddileu rhwystrau i ddysgu, cyfranogiad a chyflawniad. Mae gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid yn flaenoriaeth uchel iawn.  Byddir yn gwrando ar bryderon rhieni/gofalwyr ac yn gweithredu arnynt lle bo modd er mwyn diwallu anghenion eu plant yn effeithiol.

Mae’r Gymuned Ysgol yn bwriadu ceisio darparu’r weledigaeth hon yn gyson trwy:

  • Darparu amgylchedd dysgu rhagorol i bob dysgwr

  • Nodi anghenion yr unigolyn a chreu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gyda her a chymorth wedi'u teilwra

  • Cefnogi ein dysgwyr i gyflawni Pedwar Diben Craidd Addysg yng Nghymru

  • Cydweithio gyda phartneriaid addysgol i baratoi ein disgyblion ar gyfer y cam nesaf yn eu taith ddysgu

  • Datblygu gweithlu medrus iawn trwy gydweithio sy’n cael ei ysgogi i sicrhau’r gorau i bawb yng Nghanolfan Addysg Conwy

 

Gwyn Owen

Prifathro

Canolfan Addysg Conwy yw’r enw ymbarél ar gyfer y tair Uned Cyfeirio Disgyblion a Gwasanaeth Dysgu Gartref yn Sir Conwy. Mae’r Ysgolion yn darparu darpariaeth amgen ar gyfer myfyrwyr 5 i 16 oed sydd wedi cael trafferth gydag addysg brif ffrwd.

Daw ein myfyrwyr atom ar wahanol adegau yn ystod eu haddysg Gynradd ac Uwchradd – fel arfer o ganlyniad i fethiant eu lleoliad ysgol blaenorol, boed hynny oherwydd salwch, problemau ymddygiad neu anawsterau eraill.

Gweledigaeth ein Hysgol yw; “Creu cymuned ddiogel ac ysgogol lle mae ein holl ddysgwyr yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi ac yr adeiladir ar eu cryfderau a lle caiff cyflawniadau eu dathlu”.

Cysylltwch â Ni

Rhodfa Penrhos - 01492 514925

Penmaenrhos - 01492 577279

Ysgol Ddraig Goch - 01492 575280

Canolfan Addysg Conwy 

2023

Dylunio Gwefan - Debbie Morley

bottom of page